Vacancy • Head of International Partnerships and Transnational Education - UK
New,
2025-04-24
Jobs • UK
£ 38609.64 per annum
Company:Prifysgol Caerdydd
Location:
UK
Pennaeth Partneriaethau Rhyngwladol ac Addysg DrawswladolMae Prifysgol Caerdydd eisiau penodi Pennaeth Partneriaethau Rhyngwladol ac Addysg Drawswladol er mwyn gwireddu dyheadau byd-eang y Brifysgol mewn perthynas ag ymgysylltu a datblygu partneriaethau byd-eang. Gan weithio gyda'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol, bydd y rôl yn arwain strategaeth Partneriaethau Rhyngwladol ac Addysg Drawswladol Prifysgol Caerdydd, gan gydlynu a gweithredu mentrau a strategaethau ledled y brifysgol a sbarduno enw da Caerdydd yn brifysgol ddinesig fyd-eang, ac yn ganolbwynt gwybodaeth ac arloesi yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Bydd gan ddeiliad y rôl gyfrifoldeb sylweddol dros drafod cytundebau gyda phartneriaid dramor, gyda goblygiadau sylweddol i'r Brifysgol yn ariannol ac o ran ei henw da. Bydd deiliad y rôl yn rheoli tîm o 5 aelod o staff yn y DU a 3 chynrychiolydd partneriaethau ym Malaysia, Tsieina ac India. Bydd deiliad y rôl hefyd yn gyfrifol am waith y swyddfeydd tramor yn Tsieina a Malaysia. Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio holl weithgarwch partneriaethau strategol y Brifysgol, gan gynnwys rheoli cyllideb o £500,000. Byddwch yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol ac yn uwch aelod o'r Swyddfa Ryngwladol yn yr is-adran Cyfathrebu a Marchnata.Mae hon yn swydd amser llawn a phenagored.Cyflog: £60,907 - £66,537 y flwyddyn (Gradd 8)Bydd deiliad yn swydd yn angerddol dros addysg uwch a'i photensial i drawsnewid bywydau, yn ogystal â phrofiad ym maes partneriaethau rhyngwladol ac Addysg Drawswladol. Bydd gofyn ichi fod yn barod ac ar gael i deithio’n rhyngwladol yn ôl yr angen, a hynny hyd at 12 wythnos y flwyddyn.E-bostiwch Anne Morgan, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol os oes gennych unrhyw ymholiadau: morgana11@cardiff.ac.ukDyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 16 Ebrill 2025Dyddiad cau: Dydd Sul, 16 Mai 2025Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.Prif Ddyletswyddau• Rheoli'r Tîm Partneriaethau Rhyngwladol a chreu a gweithredu'r weledigaeth a'r strategaeth ar gyfer partneriaethau byd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd. • Sefydlu a rheoli strategaethau partneriaethau rhyngwladol cynhwysfawr, cyfannol mewn hybiau byd-eang allweddol ar gyfer Prifysgol Caerdydd. • Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaeth addysg drawswladol ledled y Brifysgol, a strategaethau addysg drawswladol rhanbarthol cysylltiedig ar gyfer Prifysgol Caerdydd, gyda chyfrifoldeb am am gyflawni gweithrediadau. • Nodi, negodi a chyflwyno cytundebau Addysg Drawswladol gydag ystod o bartneriaid, gan ymgysylltu ag arbenigwyr cyfreithiol a gweithio ar draws rhychwant o awdurdodaethau. Bydd hyn yn cynnwys trafodaethau ariannol cymhleth.• Bod yn ffynhonnell o arbenigedd, cyngor a chefnogaeth i'r brifysgol yn ehangach ar weithgaredd addysg drawswladol yn benodol. • Adnabod, adolygu ac archwilio cyfleoedd presennol a chyfleoedd posibl ar gyfer recriwtio myfyrwyr i’r Brifysgol, a phartneriaethau Astudio Dramor i gynnig cyfleoedd recriwtio mewn gwledydd a rhaglenni amrywiol.• Arwain y Tîm Partneriaethau Rhyngwladol ac Addysg Drawswladol i sicrhau ei fod yn gweithio'n effeithiol ac yn enghraifft o arfer gorau er mwyn bodloni nodi ac amcanion partneriaethau rhyngwladol ac Addysg Drawswladol y Brifysgol.• Bod yn gynghorydd strategol i'r Rhag Is-Ganghellor Materion Rhyngwladol ar Addysg Drawswladol a materion yn ymwneud â phartneriaethau, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth strategol a gweithredol ar faterion sy'n dod i'r amlwg. • Gweithio ar y cyd ag uwch gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol, gan gynnwys Swyddfa’r Is-Ganghellor, Rhag Is-Gangellorion, Deoniaid Rhanbarthol a Phenaethiaid Ysgolion, gan weithio gyda'r Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol i ddyfeisio, gweithredu a monitro partneriaethau strategol a strategaethau addysg drawswladol.Bod y pwynt cyswllt rhyngwladol allweddol ar gyfer addysg drawswladol a phartneriaethau strategol ar gyfer sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Prifysgolion Cymru, y British Council ac ati a rheoli ymgysylltiad Prifysgol Caerdydd â rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol er enghraifft, UNICA • Goruchwylio ymweliadau strategol gan sefydliadau a rhanddeiliaid academaidd, cynrychiolwyr sy’n dod i’r Brifysgol ac sy’n mynd i brifysgolion eraill, ac ymweliadau a digwyddiadau VIP yn y Brifysgol.• Mynd ati’n weithredol i hyrwyddo nodau rhyngwladoli Prifysgol Caerdydd i ysbrydoli ethos o bartneriaeth ac ymgysylltu. • Mae’r parodrwydd a’r argaeledd i ymgymryd â hyd at ddeng wythnos o deithio rhyngwladol yn ofynnol yn y rôl hon. Gwybodaeth YchwanegolMae'r Tîm Partneriaethau Rhyngwladol yn rhan o’r Swyddfa Ryngwladol a'r is-adran Cyfathrebu a Marchnata ehangach. Mae’r Tîm Partneriaethau Rhyngwladol yn goruchwylio strategaeth partneriaethau rhyngwladol ac Addysg Drawswladol Prifysgol Caerdydd, gan gydlynu a gweithredu mentrau a strategaethau ledled y brifysgol a sbarduno enw da Caerdydd yn brifysgol ddinesig fyd-eang.Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg1. Cymhwyster proffesiynol/gradd berthnasol gyda phrofiad o arwain a rheoliGwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad2. Profiad diamheuol o arwain gweithgarwch rhyngwladol ac ymgysylltu byd-eang ym maes Addysg Uwch neu rôl ryngwladol gysylltiedig3. Gwybodaeth arbenigol a dealltwriaeth gynhwysfawr o gyd-destunau addysg yn fyd-eang a phrofiad o weithio yn y rhain, ac yn arbennig ym maes Addysg Drawswladol a phartneriaethau rhyngwladol.4. Profiad o ddatblygu, llunio a gweithredu strategaeth ryngwladol, yn enwedig mewn perthynas ag Addysg Drawswladol a phartneriaethau rhyngwladolGwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm5. Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar a'r gallu i ddeall a dehongli gwybodaeth gymhleth, yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag ystod eang o bobl6. Profiad o arwain a rheoli timau, yn y DU a thramor, gyda chyllideb sylweddol 7. Gwydn, penderfynol a hyderus wrth fod yn aelod o dîm; yn gyfforddus â gwneud penderfyniadau a'r gallu i greu a rheoli rhwydweithiau strategol yn fewnol ac yn allanolCynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau8. Profiad diamheuol o ddelio â phroblemau amrywiol a heriol, a chreu datrysiadau newydd lle nad oedd rhai blaenorol yn bodoli, yn arbennig mewn perthynas ag Addysg Drawswladol 9. Y gallu i ysgrifennu a chyfrannu at achosion busnes ar gyfer buddsoddiad pellach ym maes Addysg Drawswladol a’r cyd-destun partneriaethau rhyngwladol. 10. Ymwybyddiaeth ddiwylliannol ardderchog, a’r gallu i ddathlu diwylliant cynhwysol ac amrywiol, gan gofleidio a hyrwyddo cryfder ac effaith cymuned sy’n wirioneddol fyd-eangMeini Prawf Dymunol 11. Cymhwyster ôl-radd/Proffesiynol12. Profiad o weithio ym maes addysg uwch13. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Updated: 25 April 2025
SHARE
Jobs in England , UK - fresher vacancies on Kit-Jobs.Ru
Jobs in the cities of England - fresher vacancies (869924) на Kit-Jobs.Ru: Head of International Partnerships and Transnational Education • Prifysgol Caerdydd, UK, UK. Here you can learn about the employer vacancy for free online.
Looking for your dream job? Discover career opportunities across domains and locations, search and apply to best suited
fresher job vacancies
in UK, from top companies on Kit-Jobs.Ru. View all our fresher vacancies now with new jobs added daily!
1. Follow companies you want to work for on social media.